Cerddoriaeth yng Nghinio’r Gynhadledd

carmenmills Uncategorized Leave a Comment

3LM

Rwy’n hynod falch fod Three Legg’d Mare yn mynd i chwarae yng nghinio’r gynhadledd ar 27 Chwefror 2019.

Band o Aberystwyth ydyn nhw a ddaeth at ei gilydd oherwydd eu diddordeb cyffredin yng nghaneuon ac alawon traddodiadol Cymru, Lloegr a thu hwnt, a’r hanes cymdeithasol a’r llên gwerin y tu ôl iddynt. Maent yn canu hen ganeuon am orffwylltra, cariad, marwolaeth, antur, a bywyd bob dydd, wedi’u plethu â hen alawon traddodiadol – a rhai cyfansoddiadau gwreiddiol. Gyda’u dehongliadau bywiog a sensitif, eu cytgordio lleisiol clos a’u llu offerynnau, mae Three Legg’d Mare yn troedio llwybr trwy hanes gwerin gydag angerdd ac afiaith sy’n ennill iddynt edmygwyr ledled Cymru a’r gororau.

Dyma fydd gwledd i ni!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *