Siaradwyr

Cwrdd â’r Siaradwyr

Prif siaradwyr y gynhadledd yw’r Athro Arglwydd Colin Renfrew, Yr Athro Jennifer Wallace, Yr Athro Michael Shanks, yr arlunydd Kate Whiteford OBE, a’r arlunydd Julia Sorrell.

Y siaradwyr eraill yw Dr Mary Lloyd Jones (Celfyddyd Gain), Dr Helen Wickstead (Celf ac Archaeoleg), Gareth Edwards (CBHC), Dr Antonia Thomas (Celf ac Archaeoleg), Dr Alan Chamberlain (Cyfrifiadureg), Dr Brian Graham (Celfyddyd Gain), Dr Peter Wakelin (Celf ac Archaeoleg), Ben Cooley (Hope For Justice), a Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

Hefyd yn cymryd rhan mae Dafydd Elis-Thomas (Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon), Christopher Catling (CBHC), Yr Athro John Harvey (Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth), Carmen Mills (Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth), Jon Dollery (CBHC) a thîm Archifau CBHC.

 Yr Athro Colin Renfrew

(Arglwydd Renfrew o Kaimsthorn)

 Enillodd Colin Renfrew ei radd MA o Brifysgol Caergrawnt yn 1962. Dilynodd Phimage_normal.jpg.D yn 1965. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd ac yna’n Ddarllenydd mewn Cynhanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Sheffield, cyn symud i fod yn Athro Archaeoleg a Phennaeth Adran ym Mhrifysgol Southampton. Yn 1981 symudodd i Gaergrawnt yn Athro Archaeoleg Disney, ac yn 1990 ef oedd Cyfarwyddwr sefydlu Sefydliad Ymchwil Archaeolegol McDonald, gan ymddeol yn 2004. Bu’n Feistr Coleg Iesu, Caergrawnt rhwng 1986 a 1997. Fe’i gwnaed yn Arglwydd am Oes yn 1991. Ar hyn o bryd, mae’n Gymrawd Hŷn Sefydliad Ymchwil Archaeolegol McDonald.

Ef yw awdur Figuring It Out: What are We? Where do we Come From? The Parallel Visions of Artists and Archaeologists.(Llundain, Thames & Hudson, 2004).

 

Yr Athro Jennifer Wallace

UK1509_2775Gyda chefndir yn y Clasuron a Llenyddiaeth Saesneg, mae Jennifer Wallace yn dysgu yng nghyfadran Saesneg, Prifysgol Caergrawnt, ac mae’n Gymrawd Harris yng Ngholeg Peterhouse. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys Shelley and Greece: Rethinking Romantic Hellenism (1997), Digging the Dirt: The Archaeological Imagination (2004), The Cambridge Introduction to Tragedy (2007), The Oxford History of Classical Reception in English Literature, 1790-1880 (2015) a nofel, Digging Up Milton (2015).  Mae hi wrthi’n cwblhau monograff ar gyfer Bloomsbury ar hyn o bryd, Tragedy since 9/11: Reading a World Out of Joint.

 

 

Yr Athro Michael Shanks71llZ-a20aL._UX250_.jpg

Michael Shanks yw Athro Omar ac Althea Dwyer Hoskins Archaeoleg Glasurol ym Mhrifysgol Stanford. Derbyniodd raddau BA a PhD o Brifysgol Caergrawnt a bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr pont Steffan, cyn symud i UDA yn 1999 i fod yn Athro’r Clasuron ym Mhrifysgol Stanford. Ef yw Cyfarwyddwr Labordy Dyniaethau Stanford ac mae’n hyrwyddo ymchwil a datblygiad arbrofol yn y celfyddydau a’r dyniaethau trawsddisgyblaethol. Cymerodd ran mewn cyfres o ymyraethau beirniadol mewn dadleuon ynglŷn â’r gorffennol archaeolegol, yn cynnwys y llyfrau Experiencing the Past (1991), Reconstructing Archaeology (1992), a Theatre/Archaeology (2001).  Mae’n arbenigo mewn archaeoleg glasurol, ac roedd yn allweddol yn natblygiad ôl-brosesiadoliaeth ac archaeoleg ddeongliadol yn ystod y 1980au, yn arbennig wrth gydweithredu â Christopher Tilley. Gan gydweithio â’r ymchwilydd perfformio Mike Pearson, roedd yn gyd-awdur ‘Theatr/Archaeology’ yn 2001.  Cyhoeddwyd ‘The Archaeological Imagination’ gan Routledge yn 2016.  Ar hyn o bryd, mae e’n curadu casgliad ar y cyd ar gyfer Routledge sy’n dwyn y teitl ‘Art/Archaeology’.

 

 

Kate Whiteford OBE

KAte1.png

 

Mae Kate Whiteford yn ddehonglydd celfyddyd tir blaenllaw. Mae ei gwaith yn croesi’r ffin rhwng celf ac archaeoleg a golygfeydd o’r awyr yw’r sail i’w holl waith. Gwnaeth luniau tir coffa ar ddarnau mawr o dir yn cynnwys Harewood House yn Swydd Efrog, Calton Hill yng Nghaeredin, canol dinas Coventry ac ystâd Mount Stuart ar Ynys Bute. Archwiliodd Whiteford yn aml bosibiliadau esthetig technegau archeolegol, yn cynnwys cloddio, ffotograffiaeth o’r awyr a synhwyro o bell i greu corff o waith sy’n cynnwys paentio, lluniau, tapestri a ffilm. Mae gwaith Kate Whiteford yng nghasgliad parhaol Oriel Tate ac arddangosodd yn eang yn y DU a thramor yn cynnwys yn La Biennale di Venezia.

 

 

Julia Sorrell

images.jpgMae archaeoleg wedi chwarae rhan bwysig ar hyd bywyd Julia a hynny’n rhannol am ei bod yn ferch i Alan Sorrell. Byddai’r rhan fwyaf o wyliau teuluol yn cynnwys ymweld â safleoedd ar gyfer lluniau ail-lunio oedd yn yr arfaeth, a byddai mynd am dro bob amser yn golygu craffu ar y llawr yn chwilio am ddarnau mân a chellystr cywrain – ac mae hynny’n wir o hyd.

Fel ei thad, hyfforddodd yn arlunydd a thrwy gydol ei bywyd gwaith datblygodd lawer o wahanol onglau gweledol, pa un ai drwy ffurfiau naturiol neu ddynol – y cysylltiad sylfaenol fyddai’r siapiau haniaethol a geometrig ynddynt. Dyfarnwyd iddi Wobr Travel Art 2015 gan Sefydliad ACE, ac aeth Julia ati i ddelweddu Orkney gan gyfuno tirlun ac archaeoleg. Boed Gylch Brodgar neu Skara Brae, edrychodd ar y pynciau o safbwynt arlunydd gan ymdrechu i wneud ei gwaith yr un mor hygyrch i’r dyn lleyg a’r ysgolhaig. Ers hynny, mae archaeoleg yn parhau yn ddimensiwn ychwanegol i’w gwaith.

 

Christopher Catling

Christopher Catling yw Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y corff sy’n cynnal ymchwil i bob agwedd ar dreftadaeth archeolegol a phensaernïol Cymru. Mae’n aelod o Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gyd-gadeirydd Partneriaeth Cymru Hanesyddol, sy’n dod â sefydliadau diwylliannol blaenllaw yng Nghymru ynghyd i weithio gyda’i gilydd ar brosiectau cydweithredol, ac yn gadeirydd Fforwm Mannau Addoli Hanesyddol Cymru.

Mae Christopher yn adnabyddus fel hyrwyddwr treftadaeth, newyddiadurwr a sylwebydd. Ef oedd sylfaenydd, ac am nifer o flynyddoedd ef a ysgrifennodd, gylchlythyron e-bost mwyaf dylanwadol y sector treftadaeth, sef – Salon a Heritage Alliance Update. Mae’n awdur nifer o ganllawiau teithio poblogaidd iawn, sy’n canolbwyntio ar leoliadau cyfoethog o ran celfyddyd a phensaernïaeth, gan gynnwys Fflorens, Fenis, Llundain ac Amsterdam. Mae’n parhau i ysgrifennu ar gyfer Current Archaeology am bynciau mor amrywiol â Chôr y Cewri a’r symudiad coed stryd Fictoraidd.

 

Yr Athro John Harvey

Mae John Harvey yn ymarferydd a hanesydd celfyddyd sain a chelfyddyd weledol. Mae’n Athro yn yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei faes ymchwil yw diwylliant gweledol a sonig crefydd. Ym maes hanes celf, mae ei astudiaethau’n ymwneud â delweddau gweledol o dduwioldeb poblogaidd, traddodiadau goruwchnaturiol, a diwylliant dosbarth gweithiol. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys: The Bible as Visual Culture (2013); Photography & Spirit (2007); The Appearance of Evil: Apparitions of Spirits in Wales (2003); Image of the Invisible: The Visualization of Religion in the Welsh Nonconformist Tradition (1999); a The Art of Piety: The Visual Culture of Welsh Nonconformity (1995). Ym maes ymarfer celfyddyd, mae ei waith yn ymchwilio i darddiadau gweledol, testunol a chlywedol Cristnogaeth Brotestannaidd, syniadau diwinyddol a diwylliannol, a phrosesau systemig. Trafodir y gwaith yn y gyfres o arddangosfeydd ‘The Pictorial Bible’ (2001, 2007, 2015), a’r gyfres o CDiau ‘The Aural Bible’ (2015, 2016).

 

Carmen Mills

A hithau wedi graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Hull yn 2011, daeth Carmen Mills i Brifysgol Aberystwyth yn 2013 i astudio ar gyfer gradd MA. Cymerodd ran mewn nifer o arddangosfeydd rhwng 2011 a 2013, ac roedd yn rhan o ŵyl ‘Coastival’ yn Scarborough yn 2014 gyda’i gwaith ‘The Archaeologist’s Dance’, sef casgliad o beintiadau, dyluniadau, cerddoriaeth wreiddiol a choreograffi. Yn Aberystwyth, cafodd ei pheintiadau eu dewis ar gyfer arddangosfa yn Nhŷ Hywel, adeilad y senedd, yng Nghaerdydd, ac yn Oriel Nwy Aberystwyth yn 2015. Dechreuodd ar ei chwrs PhD ym mis Ionawr 2016 ble mae hi’n parhau i ymchwilio i ryfeddodau’r dychymyg archeolegol.

 

Dr Mary Lloyd Jones

Ganed Mary Lloyd Jones ym Mhontarfynach, yng Ngheredigion. Hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd, ac mae wedi arddangos ei gwaith yn rheolaidd ers y 1960au yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.  Fel Artist Preswyl mae hi wedi gweithio yn Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Catalwnia, UDA, yr Eidal ac India. Thema ganolog ei gwaith yw’r tir, sy’n deillio o’i phrofiad fel plentyn yn tyfu i fyny yng nghanolbarth Cymru. Ei hamcan yw tynnu sylw at y byd naturiol ac i’r marciau a adawyd gan genedlaethau blaenorol. Mae archaeoleg yn ffynhonnell gyson o syniadau iddi. Mae hi’n Gymrawd Er Anrhydedd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, a Phrifysgol Aberystwyth ac mae ganddi Ddoethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gynnwys yn arddangosfa 2018,  ‘Welsh Art in China’ a drefnwyd gan Oriel Martin Tinney.

 

Dr Peter Wakelin

Mae Dr Peter Wakelin yn ysgrifennwr a churadur sy’n arbenigo mewn treftadaeth adeiledig a chelfyddyd weledol. Ymysg ei lyfrau mae Hidden Histories: Discovering the Heritage of Wales (golygwyd gyda Ralph Griffiths), Pontcysyllte Aqueduct and Canal World Heritage Site, Worktown: The Drawings of Falcon Hildred a Roger Cecil: A Secret Artist. Mae ei arddangosfeydd diweddaraf yn cynnwys Romanticism in the Welsh Landscape since 1770, Ffiniau: Four Artists in Raymond Williams’ Border Country, a Then + Now: 80 Years of Collecting Contemporary Art for Wales. Roedd yn gyn-ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru.

 

Meri Huws

 Sefydlwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dechreuodd Meri Huws fel y Comisiynydd cyntaf ar 1 Ebrill 2012.

Cyn ei phenodi yn Gomisiynydd, bu Ms Huws yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2004-2011, a hefyd yn aelod o’r bwrdd o 1993 hyd 1997.

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Abergwaun, cyn astudio gradd mewn Cyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Astudiodd am radd uwch yng Ngholeg y Santes Ann, Rhydychen, a hyfforddi i fod yn weithwraig gymdeithasol, gan weithio yn y maes am sawl blwyddyn yng ngogledd orllewin Cymru. Aeth ati i ddilyn gyrfa ym myd addysg uwch yn yr 80au a 90au – bu’n darlithio yng Ngholeg Normal, Bangor, a Phrifysgol Casnewydd cyn mynd ati i weithio am gyfnod yn Swyddfa Academaidd Prifysgol Dinas Dulyn. Bu Ms Huws hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg rhwng 1981-1983.

Ym 1999 symudodd i weithio i Brifysgol Bangor fel Dirprwy Is-ganghellor, a bu yn y swydd am ddeng mlynedd. Fe’i phenodwyd yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2009, cyn cael ei phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg yn 2012. Mae Ms Huws yn wyneb adnabyddus ym mywyd cyhoeddus Cymru. Yn aml mae’n cael ei gwahodd i roi tystiolaeth i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i annerch cynadleddau a chyfarfodydd cyhoeddus ledled y wlad, ac i siarad ar raglenni newyddion a materion cyfoes.

 

Gareth Edwards

Archifydd cymwysedig yw Gareth Edwards a hyfforddwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n aelod o’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ers 1992, pryd yr ymunodd yn Gynorthwyydd Archif. Ef bellach yw Pennaeth Gwybodaeth a Dealltwriaeth, yn arolygu’r adran sy’n ymwneud â chreu gwybodaeth trwy arolygiadau ac archwiliadau, ac yn gyfrifol am y gwaith o guradu’r wybodaeth honno yn archif y Comisiwn yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol, sef y casgliad cenedlaethol o gofnodion sy’n gysylltiedig ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

 

Dr Alan Chamberlain

Mae ymchwil Alan yn dod â Chelf a Thechnoleg ynghyd ac mae’n amrywio o ddylunio gemau seiliedig ar leoliad, i ddulliau newydd o ddehongli treftadaeth a thraciau sain seiliedig ar dreftadaeth. Mae ei ddiddordeb mewn archaeoleg yn deillio o weithio gyda chymuned Penparcau i ddychmygu, deall a hyrwyddo ymhellach, Ben Dinas – y Fryngaer o’r Oes Haearn. Mae ganddo ddiddordeb yn y berthynas sydd gan bobl â safleoedd archeolegol, y ffyrdd y gellid eu defnyddio i roi grym i gymunedau, a’r defnydd creadigol o dechnolegau i ail/gynrychioli’r safle. Mae ei berfformiadau’n rhai clywedol ac wedi’u disgrifio fel rhywbeth sy’n perthyn i’r Dyniaethau Digidol Arbrofol. Mae’n canolbwyntio ar Ben Dinas fel safle berfformio sy’n dod â Realiti Rhithwir a pherfformio ynghyd mewn ffyrdd arloesol. Mae’n Uwch Ymchwilydd ym Mhrifysgol Nottingham, ac yn Academydd Ymweliadol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’n ymddiriedolwr ar gyfer elusen yng Ngheredigion ac yn Hyrwyddwr Treftadaeth RSA – Ceir hyd i’w gyhoeddiadau yma: Cyhoeddiadau

 

Dr Brian Graham

Ganwyd Brian Graham yn Poole, Dorset ym 1945. Mae llawer o waith diweddar yr arlunydd yn ymwneud â thystiolaeth o esblygiad pobl, canlyniad ymweliadau niferus â safleoedd ac ymchwil eang.

Roedd yn destun erthygl “My Archaeology” ddiweddar yn y British Archaeology Magazine, ac mae ei gasglwyr yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain, a llu o orielau celf gan gynnwys Southampton, Caerlŷr, Huddersfield, Swindon, Ipswich ac Efrog yn ogystal â Phrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Coleg Prifysgol Llundain, Chichester, Winchester a Southampton.

Dyfarnwyd PhD Er Anrhydedd iddo o Brifysgol Bournemouth yn 2008, ac mae nifer o gatalogau a monograffau clawr caled wedi cael eu cyhoeddi, rhai’n cynnwys traethodau gan yr awdurdodau Paleolithig, Peter Andrews, Clive Gamble a Chris Stringer.

Cafodd ei gynrychioli am bedair blynedd ar ddeg gan Oriel Hart, Llundain, tan 2012, ac mae ei arddangosfeydd unigol mwy diweddar yn cynnwys “Starting from Scratch”, a agorodd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2011 a “Towards Music”, Amgueddfa Salisbury, 2018, sy’n ystyried sut, o bosibl, y mae ein hangen i fynegi ein hunain drwy gyfrwng sain wedi tarddu.

 

Dr Antonia Thomas

Fel archeolegydd proffesiynol, darlunydd archeolegol ac arlunydd amaturaidd, rwyf bob amser wedi bod â diddordeb yn y berthynas rhwng creu delweddau ac archeoleg. Yn 2009 ymchwiliais i’r berthynas hon drwy gyfrwng ymchwil a gyllidwyd gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin i’r cydadwaith rhwng celfyddyd gyfoes ac archeoleg yn Orkney. Gwnaeth gweithio gydag artistiaid cyfoes ar y prosiect hwn fy arwain wedyn i edrych o’r newydd ar gelfyddyd mewn o fewn cyd-destunau archeolegol, gan ysbrydoli fy ymchwil PhD a gyllidwyd gan yr AHRC, ‘Art and Architecture in Neolithic Orkney: Process, Temporality and Context’ (Aberdeen 2016). Roedd yr ymchwil yn dadadeiladu dehongliadau cynrychioladol er mwyn mabwysiadu dull o wneud marciau cynhanesyddol a arweinir gan broses. Rwy’n parhau i ymchwilio i’r gorgyffwrdd rhwng ymarfer archeolegol a chelfyddyd gyfoes trwy gyfrwng nifer o gydweithrediadau celfyddydol/archeolegol, tra bod fy ngwaith yn ehangach yn ymchwilio hefyd i gerfio cerrig a graffiti, ffotograffiaeth a phensaernïaeth gynhenid. Ar hyn o bryd rwy’n Ddarlithydd Archeoleg yng Ngholeg Orkney UHI ac rwy’n arwain modiwlau Meistr o’r enw ‘Art and Archaeology: Contemporary Theory and Practice’ a ‘Cultural Heritage Management’.

 

Dr Ffion Reynolds

Mae Ffion Reynolds yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ble y derbyniodd ei graddau MA a PhD mewn Archeoleg. Mae’n gweithio i Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, fel Rheolwr Treftadaeth a’r Celfyddydau, yn goruchwylio rhaglenni cyhoeddus Cadw. Ar hyn o bryd mae hi’n cyfarwyddo prosiect tirwedd archeoleg cyhoeddus Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cynhanes Prydain, siamaniaeth, animistiaeth a byd-olygon cynhanesyddol yng Nghymru, a’r DU ac Iwerddon yn fwy cyffredinol.

Yn rhan o’i swydd bresennol yn Cadw mae hi’n comisiynu artistiaid i weithio ar safleoedd treftadaeth, yn goruchwylio arddangosfeydd mawr megis arddangosfa pabïau’r ‘Weeping Window’ yng Nghastell Caernarfon yn 2016, ac arddangosfa Amgueddfa’r Lleuad, yn Abaty Tyndyrn gyda’r artist Luke Jerram ym mis Mai 2018. Mae hi’n galluogi a chreu hafan yn sector treftadaeth Cymru, ac mae’n gweithio ar y ffin rhwng celfyddyd ac archeoleg, yn darparu dadleuon dros y celfyddydau a threftadaeth, cyfeiriad ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol, diwydiannau creadigol a rhaglenni celfyddydol ar gyfer Cadw, gan fynegi effeithiau cadarnhaol treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru ac ar ei chyfer.

 

Dr Helen Wickstead

Mae Dr Helen Wickstead yn Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel yn Ysgol Gelf Kingston. Mae hi wedi gweithio fel archeolegydd am nifer o flynyddoedd yn Nhwrci, Y Weriniaeth Tsiec, Swdan, Ffrainc a’r DU. Rhwng 2003 a 2009 sefydlodd a chyd-gyfarwyddodd ‘Artists in Archaeology’, prosiect a greodd breswylfeydd wedi’u cyllido i 21 o artistiaid weithio ochr yn ochr ag archeolegwyr mewn cloddiadau, labordai ac amgueddfeydd. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu llyfr sy’n ymchwilio i sut mae archeoleg a’i harteffactau wedi llunio cysyniadau modern am y ffalws o 1613 hyd heddiw.

 

‘Hope for Justice’

Elusen fyd-eang yw ‘Hope for Justice’ sy’n gweithio i geisio dod â chaethwasiaeth fodern i ben drwy fodel amlddisgyblaethol effeithiol a phrofedig y gellir ei atgynhyrchu, ei fwyhau neu ei leihau, ac sy’n cael ei edmygu’n eang. Fe’i sefydlwyd yn y DU yn 2008 pan gymerodd grŵp bach o bobl y cam o deimlo’n ddig i weithredu, gan sefydlu mudiad i gwrdd â’r angen ymarferol i ryddhau pobl mewn caethwasiaeth fodern ar hyd a lled y DU.

Ers hynny, mae ‘Hope for Justice’ wedi tyfu yn elusen ryngwladol sy’n gweithio ar draws pedwar cyfandir i ddod â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl i ben. Mae pencadlys ‘Hope for Justice’ ym Manceinion, a chanolfannau rhanbarthol yn y DU yng ngorllewin Swydd Efrog, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Northumberland a’r Alban. Mae gennym hefyd swyddfeydd a phrosiectau yn UDA, Norwy, Cambodia, Ethiopia, Uganda, Fietnam a (thrwy bartneriaid) yn Zimbabwe.

Cefnogir ein gwaith gan lawer o Grwpiau Diddymu gwirfoddol, sy’n cefnogi prosiectau’r elusen all newid bywydau pobl, drwy godi arian, ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau.

Ein gweledigaeth yw byw mewn byd heb gaethwasiaeth.

logo